rhufain's blog
Medal aur eto
Heddiw bu Gwyn Williams yn fuddugol yn y gystadleuaeth dweud DIM FFERINS I BLANT a derbyniodd fedal aur. Daeth Manon Williams yn ail, gan dderbyn y fedal arian, ac anti Glenys yn drydydd (medal efydd). Methiant llwyr fu ymdrechion Nain Dinbych a Nain a Thaid Groeslon gan nad ydynt yn medru gwrthsefyll swnian Erin a Mirain am fwy na dwy funud. Mae perfformaid gwael Taid Groeslon yn syndod gan ei fod wedi arfer dweud NA wrth ei gwsmeriaid ym Manc Barclays ers talwm.

Pechodau
![]() |
"Sin is not just a restricted list of moral mistakes. It is living a life turned in on itself where people ignore the consequences of their actions. Making selfish choices such as flying on holiday or buying a large car are a symptom of sin". |
|
Fedra i ddim dadlau efo chdi. Mae dadl yn broses o bwyso a mesur ac o ymateb yn gall. Does dim posibl cael dadl ar y pwnc yma gan y byddai hynny yn cydnabod bod yna resymeg yn dy 'ddadl'. |
Y Barcud Coch
Aderyn ysglyfaethus mawr yw'r Barcud Coch (hefyd: Barcut, Barcutan, Bod). Ceir yn Ewrop mewn coetir, tir amaeth a'r bryniau. Roedd e'n gyffredin ym Mhrydain tan y 19eg ganrif. Aeth yn brin gyda ond ychydig barau yng Nghymru oherwydd helwriaeth trwm ac i wenwyn fynd i't gadwyn fwyd o ganlyniad i'r dulliau modern o amaethu. Mae'n cynyddu bellach a mae'n cael ei ail-gyflwyno i Loegr ac yr Alban.
Mae Barcud Coch yn frowngoch gyda pen gwelw a darn gwyn o dan yr adain. Mae'r adenydd yn hir a chul ac mae'r cynffon yn fforchog.
