Defnydd nwy Aran, Rhuthun
Dyma graff sy'n dangos yr arbediad nwy a gefais trwy newid fy hen fwyler nwy am un newydd.
O ystyried cyfartaledd y defnydd nwy yn y 3 blynedd cyn newid y bwyler (750 uned y flwyddyn), dyma'r defnydd nwy fel canran o 750 uned:
2005-2006 = 793 uned - 106%
2006-2007 = 688 uned - 92%
2007-2008 = 769 uned - 103%
2008-2009 = 429 uned - 57%
2009-2010 = 374 uned - 50% [TARGED GAEAF YMA]
Mesurau arbed egni i leihau'r nwy a ddefnyddir
| 1. Heb ddefnyddio gwres canolog buaswn yn defnyddio < 100 uned y flwyddyn. Felly mae tua 300 uned yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r ty yn y gaeaf. Yn ol yr ystadegau ar wefan yr EST (Energy Saving Trust) mae tua 30% o'r gwres a gollir o'r ty yn mynd trwy'r waliau, felly os y gallaf hanneru'r golled hon buaswn yn medru arbed [(329/3)/2] = 55 uned. Felly buasai'r defnydd blynyddol o nwy yn gostwng (429 - 55 = 374) = 50% o'r cyfartaledd cyn y system gwres canolog newydd. |
![]() |
| 2. Symud yr ystafell fyw o'r ystafell fwyaf i'r ystafell biano. Mae llawer o wres yn diflannu i fyny'r simdde ac allan o'r tai haul o bobtu i'r ystafell fawr. Felly, trwy symud y teledu i'r ystafell biano ni fydd angen cynhesu'r ystafell oer hon. |
|
| 3. Mae angen gosod falfiau thermostat ar rai o wresogyddion y llawr isa. | ![]() |
| 4. Mae angen insiwleiddio'r fynedfa i'r to. |
|
| 5. Rhaid lleihau'r drafftiau o amgylch y ffenestri. |

