Planhigion Arctig-Alpaidd Eryri
Addasiadau Rhywogaethau a safleoedd Chwilota
Fe geir yn Eryri nifer o fynyddoedd uchel sy’n gynefin i blanhigion Arctig-Alpaidd. Tueddent i fyw’n gymunedau sy’n gyfyngiedig i glogwyni calchog ar y copaon uchaf a rhoddir yr enw Arctig-Alpaidd iddynt oherwydd eu bod yn ffynnu ar fynyddoedd yr Alpau ac yng ngwledydd yr Arctig. Mae yna lawer iawn o ddyfalu wedi’i wneud i geisio egluro dosbarthiadau’r planhigion ac isod fe geir rhai o’r damcaniaethau.
Cred rhai mai creiriau ydynt o oes pan orchuddid rhan helaetho Ynys Prydain gan len o rew. Bryd hynny, tua 15,000 o flynyddoedd yn ol, trigent ar lawr gwlad de-Lloegr. Pan gynhesodd yr hinsawdd fe giliodd y rhew tua’r gogledd gan adael haen o bridd/clai oedd yn gyfoethog newn mwynau, a thir agored carregog ar draws y wlad. Ysgogodd hyn ledaeniad y planhigion Arctig-Alpaidd a phoblogwyd pob cwr o Ynys Prydain gan y rhywogaethau arloesol hyn. Ceir tystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth hon ym mhriddoedd diwedd oes y rhew yn Ne Lloegr. Maent yn cynnwys paill planhigion megis y Tormaen coch (Saxifraga oppositifolia) a’r Derrig (Dryas octopetala); planhigion sy’n gyfyngiedig i fynyddoedd y gogledd a’r gorllewin ym Mhrydain.
Wrth i’r hinsawdd gynhesu ymhellach, ffurfiodd pridd ar yr iseldiroedd a daeth planhigion eraill i gystadlu a’r rhywogaethau Arctig-Alpaidd. Gorchchuddwyd Prydain a choedwigoedd eang a ni allai’r planhigion Arctig-Alpaidd oddef cystadleuaeth o’r fath. Felly fe’u cyfyngwyd hwy i nifer o ardaloedd lle parhai’r hinsawdd yn debyg i hinsawdd Oes y Rhew a lle ni cheid cystaleuaeth oddi wrth blanhigion eraill. Mynyddoedd Eryri yw un o’r ardaleodd cymwys hyn.
Nid yw’r ddamcaniaeth hon yn egluro paham fod rhai planhigion yn bodoli yn yr Arctig ond nid yn yr Alpau. Enghraifft o hyn yw’r Tormaen siobynnog (Saxifraga caspitosa) sy’n cyrraedd ffin deheuol ei ddosbarthiad Ewropeaidd yn Eryri. Ail ddamcaniaeth yw – bod poblogaethau o blanhigion wedi goroesi Oes y Rhew yn eu safleoedd presennol. Eglura hyn absenoldeb llawer o rywogaethau’r Arctig o’r Alpau ac hefyd safleoedd unig rhai cymunedau, gannoedd o filltiroedd oddi wrth blanhigion o’r un rhywogaeth.
Diddorol yw sylwi bod llawer o blanhigion yn trigo yng ngwledydd gogledd yr Iwerydd ac nid yn yr Alpau. Felly mae’n anhebgygol fod y planhigion hyn wedi tyfu ar gyrion y llen ia gan y busai mudiad i’r Alpau wed i bod yn llawer iawn haws nag i Lychlyn ar ddiwedd oes y rhew. Mae’n debyg felly bod y planhigion wedi goroesi oes y rhew yn eu safleoedd presennol ar rai o fynyddoedd uchaf llychlyn ac hwyrach Prydain. Euglura hyn pam fod cyn gymaint o blanhigion endemig yn y gogledd. Yn bendant mae yna wahaniaethau mawr rhwng planhigion o’r un rhywogaethau yn yr Arctig a’r Alpau a dim ond dros gyfnod maith y gallasai hyn ddigwydd.
Ymysg llawer o bobl y gred yw fod fflora’r Arctig wedi bod yno ers amser maith ac mae sawl ffodd y gallasai’r lledaenu gwreiddiol fod wedi digwydd. Un dull yw ar draws Gwlad yr Ia. Arferai’r ynys fod yn llawer iawn mwy, yn cyrraedd Ynysoedd y Faroes. Felly buasai mudiad o fewn ardal y gogledd-Iwerydd wedi bod yn weddol rhwydd ar draws ynys a gysylltai gogledd yr Iwerydd ag Ewrop. Dim on un ddamcaniaeth o blith nifer yw hon.
Yr enw a roddir i safle a fu’n lloches i blanhigion drwy’r cyfnodau oerion yw nunatak.
Heddiw mae llefydd o’r fath yn bodoli ar Ynys Gronland. Yn aml, mynyddoedd sy’n codi uwchben y rhewlifoedd ydynt. Gwnaed llawer o ymchwil i geisio adnabod cyn-nunatakau mewn gwledydd gogleddol fel Norwy, trwy astudio’r planhigion thirffurfiau [Gjaerevoll]. Tirffirfiau fel cymoedd a chribau sy’n derbyn y sylw mwyaf. Er eu bod nhw yn dystiolaeth o weithgaredd rhewlifol, maent hefyd yn ysgythrog a danheddog ac yn awgrymu nad ydynt wedi cael eu gorchuddio’n gyfangwbl gan rewlifiant. Felly gallent fod yn gyn-nunatakau. Mae cerrig rhydd ar gopaon mynyddoedd yn awgrymu rhyddid o rewlifiant ers cyfnod maith a gallai safleoedd o’r fath fod yn gyn-nunatakau. Nid ydy’r nunatakau o reidrwydd yn gorfod bod uwchben y rhewlifoedd. Yn yr Antarctig heddiw mae dyffrynoedd cyfan sy’n rhydd o rewlifiant.
Tybed a geid nunatakau yn Eryri gydol oes y rhew? Yn bersonol teimlaf fod hyn yn debygol iawn gan bod yr ardal yn gymharol ddeheuol ac yn cynnwys tirffurfiau megis cymoedd a chribau. Os oes planhigion wedi byw trwy gydol yr oesoedd rhew yng Nghymru, paham nad oes gennym blanhigion endemig? Yr ateb i’r cwestiwn hwn mae’n debyg yw bod mwyafrif y planhigion Arctig-Alpaidd yn diflannu o’r tir yn ystod y cyfnodau cynnes rhwng yr oesoedd rhew, fel y tystia prinder llawer o rywogaethau Arctig-Alpaidd Eryri. Nid yw hyn yn broblem yn yr Arctig a’r Alpau gan bod yr amoda’n ffafriol yno hyd yn oed yn ystod y cyfnodau cynhesaf. Tebyg yw’r sefyllfa yn ystod y cyfnodau oerion yng Nghymru, gyda planhigion yr iseldiroedd yn marw o’r tir. Dim ond wrth edrych ar leoliad Ynys Prydain ar y map gwelwn ei bod rhwng yr Arctig a’r Alpau. Fe’i cynhesir gan Lif-y-Gwlff sy’n golygu bod Prydain yn ynys gynnes. Felly fe geir cylchedd o ddifa ac ail-sefydlu wrth i’r hinsawdd gynhesu ac oeri.
Mae’n debyg bod gwirionedd yn y ddwy ddamcaniaeth a bod peth mudo wedi digwydd a ddiwedd Oes y Rhew tra bod rhai planhigion yn bresenol ers cyn y cyfnodau oerion.
[heb deipio gweddill yr erthygl – mae na 20 tudalen ar bapur……]