Gwe-gamera Yr Wyddfa
Tasgau – y pethau nesaf i’w datrys:-
1. Angen clock 32kHz i ddeffro’r cyfrifiadur. Hwyrach y byddaf yn defnyddio – DS32kHz neu gwell fyth byddai PIC 12LF1840. Medraf ddefnyddio micro 8 pin megis yr un isod:-
2. Angen Arduino pwer isel iawn.
Dyma’r llun cyntaf a dynnais efo’r camera (uCAM -> Arduino R3 -> ZBee -> ZBee -> PC -> FTP i’r We.
Y prosiect diweddaraf – linc 2.4GHz i gysylltu camera ar ochr Yr Wyddfa â fferm Hafod y Llan.
Syniadau:
1. Defnyddio cyfrifiadur Arduino (pwer isel iawn – ychydig μA) i ddarlledu llun .jpg, trwy ddefnyddio modem XBee. Bydd cyfrifiadur ar y mynydd yn cael ei ddefnyddio i ddarlledu pob hanner awr, i leihau defnydd y batri (Lithium 3.3V).
2. Peiriant bach arall ar y mynydd (wedi ei gysylltu â chyflenwad pwer) i dderbyn y llun, a’i yrru ymlaen at Hafod y Llan. Mae angen y router yma gan nad oes llwybr uniongyrchol o’r safle i Hafod y Llan.
3. Modem XBee yn Hafod y Llan wedi ei gysylltu â chyfrifiadur – sy’n gyrru’r lluniau i’r we.

Enghraifft o fodem XBee (aerial chwip) dwi wedi ei osod mewn bocs tryloyw – bydd angen defnyddio XBee a chysyltwr CDSMA yn Hafod y Llan.
Cysylltiad 1 – o’r mynydd i’r mynydd
Aerial bach (whip) – angen pellter o tua 300m). Felly dim angen aerial mawr ar y safle. Ar y router bydd angen Yagi i yrru’r wybodaeth ymalen i Hafod y Llan.
Cysylltiad 2 – o’r mynydd i Hafod y Llan
XBee CDSMA efo Yagii (16 dBi) i ddarlledu – a soser (24 dBi) i dderbyn yr wybodaeth yn Hafod y Llan.
Cysylltiad 3 – o Hafod y Llan i’r we
Angen XBee CDSMA wedi ei gysylltu a chyfrifiadur sydd a chysylltiad rhyngrwyd. Angen meddalwedd FTP i roi’r llun yn y lle cywir.